Cerddoriaeth – Grŵp
Trawsbleidiol
Dydd Mawrth 11 Gorffennaf 2023
Ar y safle ac ar-lein ar Teams,
12.15-13.15
Y Senedd,
Ystafell Gynadledda A, Llawr Gwaelod, Tŷ Hywel,
Caerdydd.
Cofnodion y cyfarfod
Yn
bresennol: Rhianon
Passmore (RA) (Cadeirydd), Paul Carr (PC), Rob Smith (RS), Paul
Reynolds (PR), Tamasree
Mukerji (TM), Elizabeth
Atherton (EA), Philip Moss (PM), Miranda Glen (MG)
Yn bresennol ar Teams: Patricia Bovey (PB), Lisa Tregale (LT), Chris Evans (CE), Calliope Cooper-Russell (CC-R), Patricia Keir (PK), David Ball (DB), Sara Gibson (SG), Nia Williams (NW), Susan Wood (SW) (Clerk), Deborah Keyser (DK), Jodie Underwood (JU), Rhian Hutchings (RH), Ryland Doyle (RD), Sara Gibson (SG)
Eitem ar yr agenda |
Nodwyd/Trafodwyd/Cytunwyd/Camau Gweithredu |
Person(au) sy’n gyfrifol |
1.
|
Croeso a chyflwyniad Estynnodd RP groeso i bawb a diolchodd iddynt am fynychu'r cyfarfod hwn. Croesawodd RP Dr Rob Smith o Brifysgol De Cymru, Elizabeth Atherton, Sefydliad Cerddoriaeth Eglwys Gadeiriol Llandaf, Tamasree Mukerji, Prif Swyddog Gweithredol KIRAN Cymru a Paul Reynolds, Cadeirydd Cymdeithas Corau Meibion Cymru a gofynnodd i bawb a oedd unrhyw wrthwynebiad pe baent yn ymuno â'r grŵp. Nid oedd unrhyw wrthwynebiad. Mae RP wedi derbyn ymddiswyddiad Craig Roberts ac nid oedd unrhyw wrthwynebiad. |
|
2. |
Ymddiheuriadau
|
|
Cofnodion |
|
|
4. |
Materion
sy’n codi |
|
5. |
Cyflwyniad gan y panel: Yr Anrhydeddus Patricia Bovey, Cyn-Seneddwraig Annibynnol Manitoba
Croesawodd RP y Seneddwraig Patricia Bovey o Ottawa yng Nghanada, sydd â chryn brofiad o waith polisi ym maes y celfyddydau ac sydd wrthi’n ceisio creu declarasiwn ynghylch parchu rôl hanfodol artistiaid a mynegiant creadigol yng Nghanada.
Siaradodd y Seneddwraig Bovey am y gwaith ymchwil yr oedd hi'n ei drefnu yn ymchwilio i effaith y celfyddydau ar draws cymdeithas. Roedd y canfyddiadau mor anogol, mae bellach wedi cyflwyno darn o ddeddfwriaeth o'r enw The Essential Role of Artists and Creative Expression in Canada. Ar hyn o bryd, mae angen noddwr ychwanegol ar y Bil ond mae'r Gweinidog yn cytuno'n llwyr â'i fwriad.
Y celfyddydau a’r diwydiannau diwylliannol yw'r trydydd cyflogwr mwyaf yng Nghanada, a diben ei gwaith oedd ymchwilio i'w heffaith mewn wyth maes ar draws cymdeithas, sef: swyddi a chreu swyddi, yr economi, iechyd, addysg, dysgu, atal troseddu, twristiaeth a'r amgylchedd. Cadarnhaodd y Seneddwraig Bovey mai artistiaid yw'r ganran fwyaf o bobl sy'n gweithio ond yn byw o dan y llinell dlodi. Mae tair gwaith yn fwy o bobl yn cael eu cyflogi ym maes y celfyddydau yng Nghanada na'r rhai a gyflogir ym maes bancio, coedwigaeth neu'r diwydiant modur. Diben y Bil yw cymryd camau i sicrhau y daw’r celfyddydau a diwylliant yn rhan greiddiol o’r gwaith o ddatblygu polisi ar draws pob sector.
Mae gan artistiaid hawliau hefyd a rhan o'r gwaith yw sicrhau bod ganddynt hawl i gael tegwch, diogelwch o ran cyflogaeth a diogelwch economaidd, a bod eu gwaith yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi. Mae'n rhaid iddynt gael eu cynrychioli ar lwyfan y byd, a diolchodd PB i RP am y cyfle hwn i drafod a thynnu sylw at gelf ac artistiaid o wledydd eraill.
Diolchodd RP i
PB am ei chyflwyniad cryno yn trafod blynyddoedd o waith a
chydnabu'r uchelgais i gydnabod natur gyfannol a phwysigrwydd y
celfyddydau mewn cymdeithas a thrwy ein hanes diwylliannol ar y
cyd. Agorodd RP y drafodaeth i’r llawr, gan wahodd
cwestiynau. Holodd CE am gerddorion amatur a rhagnodi cymdeithasol ar gyfer Cymru, gan gynnwys corau dementia a chyfleoedd i gyn-garcharorion nid yn unig ganu ond hefyd gymdeithasu. Roedd PB yn cytuno â CE ac ategodd fod hwn yn Fil i bawb, a bod nifer o feddygon bellach, yn enwedig yn ardal Montreal, sy'n rhagnodi ymweliadau ag amgueddfeydd yn hytrach na chyffuriau.
CAM GWEITHREDU: Y Seneddwraig Bovey i rannu ei gwaith ymchwil â'r grŵp. |
|
6. |
Cerddoriaeth Gymunedol/Cerddoriaeth Fyw Tynnodd PM sylw
at y pwysau sydd ar fandiau pres yng Nghymru oherwydd diffyg
cyllid, yn wahanol i’r corff Brass Band England. Gofynnodd RP
i PM anfon e-bost ati i dynnu sylw at ei bryderon a byddai'n edrych
ar hyn y tu allan i'r cyfarfod. |
|
7. |
Dyddiadur/Digwyddiadau Dywedodd RP fod Diwrnod Creu Cerddoriaeth ar 21 Mehefin yn llwyddiant ysgubol yn yr Alban ac roedd yn gobeithio y gellir adlewyrchu hyn yng Nghymru. Mae RP hefyd yn ystyried cynnal digwyddiad perfformio ym mis Tachwedd gyda cherddoriaeth gymunedol fyw a digwyddiad i’r diwydiant ym mis Chwefror 2024. Mae'r digwyddiadau hyn yn dal i gael eu datblygu a bydd rhagor o fanylion maes o law. CAM GWEITHREDU: RP i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau cerddorol pan fyddant wedi'u cadarnhau. |
|
8. |
Diweddariad ymchwil |
RP, DB a phawb |
9. |
Dyddiad y cyfarfod nesaf Dydd Mawrth 26 Medi 2023
|
|
10. |
Unrhyw fater
arall |
|